Cyngor Cymuned Llansannan Community Council Bro Aled

Cyngor / Council

Gwybodaeth am y Cyngor, eich Cynghorwyr, dyddiau cyfarfodydd, Agendas, Cofnodion a Pholisiau'r y Cyngor. lnformation about the Council, the Councillor, dates of meetings, Agendas, Minutes and the Council's policies.

Eich Cyngor, beth maen ei wneud yn lleol / Your Council, what it's doing locally website link

.

CYNGOR CYMUNED LLANSANNAN COMMUNITY COUNCIL.

CLERC / CLERK, Emrys Williams, Groesffordd, Henllan Dinbych LL16 5DA
Tel: 01745 870 744 mob: 07876266339 e-bost. Click to email

CYNHELIR CYFARFOD BLYNYDDOL Y CYNGOR
YNG NGHANOLFAN ADDYSG BRO ALED LLANSANNAN AR NOS FERCHER 10 fed o FAI 2023 AM 7-30 yh.

THE COMMUNITY COUNCIL’S ANNUAL MEETING
WILL BE HELD AT BRO ALED EDUCATIONAL CENTRE ON WEDNESDAY 10th MAY 2023 AT 7-30 pm.
.
GWAHODDIR AELODAU O’R CYHOEDD A’R WASG I’R CYFARFOD,
MEMBERS OF THE PUBLIC AND THE PRESS ARE INVITED TO ATTEND.

Hysbysiad o Gyfethol
Adran 116 Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011
Cyngor Cymuned LLANNSANNAN.(Ward Llansannan)
Rhoddir hysbysiad trwy hyn fod 2 sedd wag am swydd Cynghorydd yn y Gymuned/Ward uchod, a fod yr Cyngor Cymuned yn bwriadu cyfethol.

Ceisir datganiadau o ddiddordeb gan aelodau o’r cyhoedd sy’n cyflawni’r meini prawf canlynol ac sydd â diddordeb mewn cynrychioli eu cymuned ar y Cyngor Cymuned dywededig. Rhaid bod yn ddinesydd Prydain, yn ddinesydd cymwys o’r Gymanwlad, yn ddinesydd un o aelod-wladwriaethau yr Undeb Ewropeaidd neu’n ddinesydd tramor cymwys ac yn 18 oed neu’n hŷn, ac yn cyflawni o leiaf un o’r meini prawf canlynol:*
• wedi’ch cofrestru fel etholwr llywodraeth leol ar gyfer yr ardal a enwir uchod; neu
• yn ystod y cyfan o’r 12 mis diwethaf, wedi bod yn berchennog neu’n denant tir neu safle arall yn y gymuned a enwir uchod; neu
• wedi bod â’ch prif neu’ch unig weithle yn ystod y 12 mis diwethaf yn y gymuned a enwir uchod; neu
• rydych wedi byw yn y Gymuned, neu o fewn 4.8 cilometr ohoni yn ystod y cyfan o’r 12 mis diwethaf.
*Mae rhai pobl penodol wedi’u hanghymhwyso rhag ymgeisio, yn eu plith swyddogion cyflogedig y Cyngor, unrhyw un sy’n destun gorchmynion cyfyngu methdalwyr a’r rheiny sy’n destun dedfrydau o garchar yn ddiweddar. Mae’r gyfrifoldeb yn eistedd gyda’r ymfgeisydd i sicrhau eu bod yn gymwysedig i ymgeisio.

Os ydych yn dymuno cael eich ystyried i gael eich cyfethol ar gyfer y sedd gwag, neu’n dymuno cael rhagor o wybodaeth ynghylch rÔl Cynghorwyr Cymuned, cysylltwch â Clerc y Cyngor
Cymuned: Emrys Williams Groesffordd Henllan Dinbych LL16 5DA Tel 01745870744 neu 07876266339. Ebost > Click to email
erbyn 17eg HYDREF 2022.

Llofnodwyd, Emrys Williams. Dyddiwyd 28ain Medi 2022

Notice of Co-option
Section 116 Local Government (Wales) Measure 2011
LLANNSANNAN Community Community Council.(LLANSANNAN WARD)

Notice is hereby given that ……2… vacancies has occurred in the office of Councillor for the above mentioned Community/Ward, and the Community Council intends to cop-opt.
Expressions of interest are being sought from members of the public who meet the following qualifications and are interested in representing their community on the aforementioned Community Council. You must be a British citizen, an eligible Commonwealth citizen, a citizen of any member state of the European Union or a qualifying foreign and be 18 years of age or over; and meet at least one of the following criteria:*
• registered as a local government elector for the area named above; or
• during the whole of the last 12 months occupied as owner or tenant land or other premises in the community named above; or
• your principal or only place of work during the last 12 months has been in the community named above; or
• you have during the whole of the last 12 months resided in the Community or with 4.8 kilometres of it.
*Certain people are disqualified from standing, and these include paid officers of the community council, anyone subject to bankruptcy restriction orders and those subject to recent sentences of imprisonment. It is the responsibility of the candidate to ensure that they are qualified to stand.

If you wish to be considered for co-option for the vacant seat or want more information regarding the role of a Community Councillor please contact the Clerk of the Council Community on/at
Emrys Williams , Groesffordd, Henllan, Denbigh, LL16 5DA tel 01745870744 mob 07876266339 email > Click to email <
by 17th OCTOBER 2022

Signed _Emrys Williams Dated 28/ 09/ 20222

Cyngorhau Cymuned yng Nghymru
Cyfeirnod: Hysbysiad Archwilio 2022
Dyddiad cyhoeddi: 17 Mawrth 2022
Annwyl Syr/Madam
Archwilio Cyfrifon 2022
Mae’r llythyr hwn yn cynnwys gwybodaeth bwysig ar gyfer yr archwiliad allanol statudol. Mae’n cynnwys hysbysiad archwilio ac esboniad o’r hyn y mae’n rhaid i chi ei wneud yn awr. Mae’n bwysig i chi ddarllen y cynnwys yn ofalus er mwyn sicrhau eich bod yn darparu’r holl wybodaeth ofynnol i’ch archwilydd mewn pryd. Os bydd rhaid inni ofyn am y wybodaeth hon eto yn ystod yr archwiliad, efallai y bydd y Cyngor yn achosi ffioedd archwilio ychwanegol. Mae Atodiad 1 yn nodi’r camau nesaf y mae angen i chi eu cymryd ar gyfer yr archwiliad.
Penodi dyddiad ar gyfer arfer hawliau etholwyr i ofyn cwestiynau a mynegi gwrthwynebiad yn ystod archwiliad
Mae’r Archwilydd Cyffredinol wedi penodi dydd Llun, 12 Medi 2022, fel y dyddiad y caiff etholwyr arfer eu hawliau o dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004.
Rydym hefyd yn amgáu copi o ffurflen flynyddol 2022 i chi ei llenwi a’i dychwelyd i ni. Sylwch ar y canlynol, os gwelwch yn dda:
rhaid i’r ffurflen flynyddol gael ei hardystio gan y Swyddog Ariannol Cyfrifol a’i chymeradwyo gan y Cyngor, erbyn 30 Mehefin 2022. Os na ellwch wneud hynny, rhaid i chi gyhoeddi hysbysiad ar eich gwefan a’ch hysbysfwrdd yn egluro pam. Ceir hysbysiad enghreifftiol yn Atodiad 1. Bydd methu â gwneud hynny yn arwain at farn archwilio amodol.
anfonwch eich ffurflen flynyddol atom wedi’i chwblhau a’i chymeradwyo, ynghyd â’r holl wybodaeth y gofynnwyd amdani, erbyn 15 Gorffennaf 2022 fan bellaf. Dylid cyflwyno’r ffurflen flynyddol a’r wybodaeth ategol cyn gynted â phosibl ac ni ddylech aros tan y dyddiad a nodir uchod. Bydd hyn yn ein helpu i reoli ein llwyth gwaith cyffredinol. Fodd bynnag, ni fyddwn yn gallu cyhoeddi ein barn archwilio tan ar Ôl 12 Medi 2022.
&#8195;
Amserlen i’r cyhoedd gael arolygu’r cyfrifon
Rhaid i bob cyngor sicrhau bod ei gyfrifon a’i ddogfennau ategol ar gael i’w harchwilio gan y cyhoedd. Mae hwn yn faes lle rydym yn derbyn llawer o gwynion ynglŷn â chynghorau tref a chymuned. Mae delio â’r cwynion hyn yn ychwanegu at gost yr archwiliad. Felly, rydym yn argymell bod cynghorau'n dilyn yr amserlen a nodir isod:
• eu bod erbyn 20 Mehefin 2022 yn cyhoeddi’r hysbysiad archwilio amgaeedig ar hysbysfwrdd yn yr ardal AC ar wefan y Cyngor am 14 diwrnod calendr o leiaf; ac
• ar Ôl y 14 diwrnod calendr y cyfeirir atynt uchod, yn gwneud trefniadau priodol i’r cyhoedd archwilio’r cyfrifon a’r dogfennau ategol am gyfanswm o 20 diwrnod gwaith o 4 Gorffennaf tan 29 Gorffennaf.
Mae’r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i’r cyfrifon fod ar gael i’w harchwilio ar rybudd rhesymol yn ystod y cyfnod archwilio. Os bydd trefniadau’r cyngor yn eithrio unrhyw ddiwrnodau gwaith (o ddydd Llun i ddydd Gwener ac eithrio gwyliau banc), yna rhaid ymestyn y cyfnod archwilio yn briodol. Mae'r dyddiadau a nodir uchod yn caniatáu i gynghorau sy'n rhwym i’r dull archwilio newydd sicrhau bod eu cofnodion ar gael i'w harchwilio gan y cyhoedd cyn darparu'r un dogfennau i'w harchwilio. Os ydych yn dymuno cymhwyso dyddiadau amgen ar gyfer yr hysbyseb a'r arolygiad, rhaid i chi sicrhau bod y trefniadau a wnewch yn cydymffurfio â Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014. Dylai cynghorau nodi y gallant gyhoeddi'r hysbysiad archwilio cyn iddynt gymeradwyo eu ffurflenni blynyddol ond rhaid i'r cyfnod arolygu cyhoeddus ddilyn dyddiad y gymeradwyaeth.
Archwiliadau blynyddoedd blaenorol heb eu cwblhau
Rydym wrthi’n gweithio drwy’r Ôl-groniad sydd gennym o archwiliadau ar gyfer 2021 a blynyddoedd ynghynt. Ein nod yw cyhoeddi'r holl ffurflenni blynyddol ardystiedig y gallwn dros yr ychydig fisoedd nesaf. Fodd bynnag, nid ydym eto wedi derbyn tua 125 o ffurflenni blynyddol ar gyfer 2020-21 a nifer sylweddol o ffurflenni blynyddol ar gyfer blynyddoedd ynghynt.
Er mwyn gwella prydlondeb archwiliadau yn ystod y blynyddoedd i’w dod, ein nod yw diweddaru pob cyngor yn 2022. Byddwn yn cysylltu â phob cyngor nad yw eto wedi darparu cyfrifon blynyddoedd cynharach dros yr wythnosau nesaf. Efallai y bydd angen gwaith archwilio ychwanegol yn y cynghorau hyn a byddwn hefyd yn ystyried a oes angen arfer pwerau adrodd statudol yr Archwilydd Cyffredinol yn y cynghorau hyn.
Rhaid i chi lenwi, cymeradwyo ac anfon ffurflen 2022 atom, hyd yn oed os nad yw eich archwiliad am 2021 (a blynyddoedd cynharach) wedi cael ei gwblhau eto.
&#8195;
Trefniadau archwilio newydd
Y llynedd, fe wnaethom eich hysbysu ein bod, oherwydd effaith COVID-19, wedi gohirio cyflwyno ein trefniadau archwilio newydd am flwyddyn. Gan y bydd y cyfyngiadau sy'n deillio o COVID-19 bellach yn cael eu diddymu’n llwyr o ddiwedd mis Mawrth, rydym wedi penderfynu y byddwn yn gweithredu'r trefniadau newydd eleni.
Tynnir eich sylw at yr amserlen sydd ynghlwm wrth yr e-bost eglurhaol sy'n nodi pryd y bydd pob cyngor yn rhwym i'r trefniadau newydd. Ar gyfer y cynghorau hynny sy'n rhwym i'r trefniadau newydd eleni, byddwn yn cysylltu â chi ar wahân gyda manylion am sut i roi'r wybodaeth ychwanegol y mae ei hangen arnom.
Hyd yn oed os ydych yn rhwym i’r trefniadau archwilio newydd, mae angen i chi gyflwyno'ch ffurflen flynyddol a'r wybodaeth a nodir yn yr hysbysiad archwilio hwn.
Newidiadau mewn clercod
Os nad chi yw clerc y corff mwyach, rhowch wybod i ni ar unwaith, os gwelwch yn dda. Gallwch ysgrifennu atom yn Click to email
Yn gywir
Deryck Evans
Deryck Evans
Rheolwr
Ar gyfer ac ar ran Archwilydd Cyffredinol Cymru
&#8195;
Atodiad 1 – Y camau nesaf
Cwblhau’r ffurflen flynyddol
Dylech lenwi’r ffurflen flynyddol yn llawn cyn gynted â phosibl a sicrhau bod eich archwilydd mewnol wedi cwblhau ei waith cyn i’r ffurflen flynyddol gael ei chymeradwyo. Bydd y Canllaw i Ymarferwyr (Llywodraethu ac Atebolrwydd i gynghorau lleol yng Nghymru) yn gymorth i chi gwblhau’r ffurflen flynyddol.
Yna, rhaid i’r Swyddog Ariannol Cyfrifol ardystio’r ffurflen flynyddol erbyn 30 Mehefin a rhaid i’r corff gymeradwyo’r ffurflen flynyddol hefyd erbyn 30 Mehefin. Ni chaiff y corff ddirprwyo’r gymeradwyaeth hon i bwyllgor.
30 Mehefin yw’r dyddiad olaf y cewch gymeradwyo’r ffurflen flynyddol. Dylech geisio llenwi’r ffurflen flynyddol yn gynt os gellwch. Os na ellwch lenwi’r ffurflen flynyddol cyn y dyddiad hwn, bydd angen i chi gyhoeddi’r hysbysiad priodol fel y nodir yn Atodiad 2. Bydd angen i chi hefyd sicrhau eich bod yn cydymffurfio â gofynion y Rheoliadau wrth hysbysebu'r archwiliad.
Anfon y ffurflen flynyddol at yr archwilydd
Unwaith y bydd y ffurflen flynyddol wedi cael ei chymeradwyo, dylech ei hanfon yn syth, ynghyd â’r dogfennau eraill a nodir ar dudalennau 5 a 6 y llythyr hwn, at eich archwilydd yn:
Archwiliadau Cynghorau Cymuned
Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ
Gallwch hefyd eu cyflwyno drwy e-bost at Click to email
Dylid anfon y ffurflen flynyddol a’r dogfennau ategol at yr archwilydd cyn gynted â phosibl ar Ôl eu cymeradwyo. Fodd bynnag, rhaid inni eu derbyn erbyn 15 Gorffennaf 2022 fan bellaf.
Dylech gadw copi o’r ffurflen flynyddol i’w harchwilio gan y cyhoedd.
&#8195;
Hysbysiad archwilio
Rhaid i chi arddangos yr hysbysiad archwilio amgaeedig (tudalen 6) mewn man amlwg yn yr ardal. Argymhellwn y dylid gwneud hyn erbyn 20 Mehefin 2022. Rhaid arddangos yr hysbysiad hefyd ar wefan y cyngor. Dylid arddangos hysbysiadau cydbwyllgorau ar wefannau’r cynghorau sy’n aelodau ohonynt. Rhaid i’r hysbysiad barhau i gael ei arddangos am o leiaf 14 diwrnod (tan 3 Awst os caiff ei arddangos ar 20 Mehefin).
Mae’r dyddiadau perthnasol wedi eu hargraffu ar yr hysbysiad yn barod. Mae angen i chi fewnosod eich manylion cyswllt fel y nodir ar yr hysbysiad.
Bydd methu â chydymffurfio â’r gofynion hyn yn peri i’r tîm archwilio gyhoeddi hysbysiad archwilio newydd ac ailgychwyn y broses.
Cewch arddangos yr hysbysiad am fwy na 14 diwrnod os ydych yn dymuno.
Archwilio’r cyfrifon
Rhaid i chi sicrhau bod y ffurflen flynyddol a’ch cofnodion cyfrifyddu ar gael i’w harchwilio gan y cyhoedd am 20 diwrnod gwaith ar rybudd rhesymol. Mae’r hysbysiad archwilio yn nodi ein dyddiadau argymelledig ar gyfer y cyfnod archwilio, ar sail argaeledd o ddydd Llun i ddydd Gwener. Os ydych yn dymuno defnyddio dyddiadau eraill, cyfrifoldeb y Cyngor yw sicrhau bod y cyfnod arolygu yn cydymffurfio â gofynion y Rheoliadau.
Bydd methu â chydymffurfio â’r gofynion hyn yn llawn yn peri i’r tîm archwilio gyhoeddi hysbysiad archwilio newydd ac ailgychwyn y broses. Bydd hyn yn arwain at gynnydd yn y ffi archwilio.
Y wybodaeth sy’n ofynnol ar gyfer yr archwiliad
Mae’r Archwilydd Cyffredinol wedi nodi bod yn rhaid i BOB cyngor yng Nghymru ddarparu’r wybodaeth ganlynol ar gyfer archwiliad 2021-22. Mae’r wybodaeth yn ofynnol o dan adran 52 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004.
Dylech anfon y ffurflen flynyddol wreiddiol atom a chopïau o’r dogfennau canlynol cyn gynted â phosibl, ac erbyn 15 Gorffennaf 2022 fan bellaf, beth bynnag. Bydd methu â darparu’r wybodaeth hon yn amserol yn peri codi ffioedd archwilio ychwanegol ar y Cyngor.
Wrth ymgymryd â’n gwaith archwilio, efallai y byddwn yn nodi esboniadau neu wybodaeth bellach sy’n ofynnol i’n galluogi i gwblhau’r archwiliad ac nad ydynt wedi eu nodi yn y llythyr hwn. Mae hyn yn rhan arferol o’r broses archwilio wrth inni ganfod materion y mae angen eu hystyried. Byddwn yn rhoi gwybod i chi am unrhyw esboniadau neu wybodaeth bellach sydd ei hangen, yn ystod yr archwiliad.
Datganiadau cyfrifyddu
1. Cysoniad banc ar 31 Mawrth 2022. Ceir templed o gysoniad banc yn yr e-bost eglurhaol.
2. Esboniad o’r amrywiadau rhwng cyfrifon 2020-21 a 2021-22 a adroddwyd yn y ffurflen flynyddol eleni. Ceir templed ar gyfer esbonio amrywiadau yn yr e-bost eglurhaol.
3. Os yw'n berthnasol, esboniad o unrhyw wahaniaethau (h.y. ailddatganiadau) rhwng cyfrifon 2020-21 a gynhwyswyd yn ffurflen flynyddol y llynedd a chyfrifon 2020-21 a adroddwyd ar y ffurflen flynyddol eleni.
Mae canllawiau ar gyfer paratoi’r dogfennau hyn wedi cael eu cynnwys yn y Canllaw i Ymarferwyr. Cyfeiriwch at y Canllaw i Ymarferwyr yn y lle cyntaf. Os bydd arnoch angen cymorth pellach, gall Un Llais Cymru ddelio ag ymholiadau’r Cyngor.
Datganiad Llywodraethu Blynyddol
1. Esboniad o reolaethau mewnol a threfniadau cymeradwyo'r Cyngor ar gyfer taliadau a wneir gan y Cyngor. Ceir templed ar gyfer esbonio rheolaethau talu yn yr e-bost eglurhaol.
2. Copi o'r hysbysiad archwilio a ddangosir ar hysbysfwrdd a gwefan y Cyngor.
Ffioedd archwilio
Codir ffioedd archwilio yn unol â Chynllun Ffioedd Swyddfa Archwilio Cymru sydd ar gael yn website link.
Annibyniaeth
Nid ydym yn gwybod am unrhyw wrthdaro buddiannau rhwng yr archwilydd a’r Cyngor, ei aelodau na’i staff. Byddwn yn rhoi gwybod i chi os byddwn yn dod yn ymwybodol o wrthdaro posibl. Dylech roi gwybod i ni os ydych yn gwybod am unrhyw wrthdaro buddiannau o’r fath.
Cwynion
Os oes gennych unrhyw gwynion amdanom ni, cysylltwch â ni yn y cyfeiriad uchod, os gwelwch yn dda. Fel arall, cewch anfon e-bost i Click to email
&#8195;
Atodiad 2 – Hysbysiad archwilio
Hysbysiad pennu’r dyddiad ar gyfer arfer hawliau etholwyr
CYNGOR CYMUNED LLANSANNAN
Blwyddyn ariannol yn dod i ben ar 31 March 2022
1. Dyddiad cyhoeddi 23ain MEHEFIN 2022.
2. Bob blwyddyn, archwilir y cyfrifon blynyddol gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Cyn y dyddiad hwn, mae unrhyw berson â diddordeb yn cael cyfle i archwilio a gwneud copïau o’r cyfrifon a’r holl lyfrau, gweithredoedd, contractau, biliau, talebau a derbynebau ac yn y blaen sy’n ymwneud â hwy am 20 diwrnod gwaith ar rybudd rhesymol. Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021, bydd y dogfennau hyn ar gael ar rybudd rhesymol ar gais i:
EMRYS WILLIAMS,
GROESFFORDD ,
HENLLAN, DINBYCH, LL16 5DA

Rhwng yr oriau o 9.00yb a 5.00yp o ddydd Llun i ddydd Gwener
Yn dechrau ar 4 Gorffennaf 2022
Ac yn dod i ben ar 29 Gorffennaf 2022
3. O 12 Medi 2022, hyd nes y bydd yr archwiliad wedi ei gwblhau, mae gan Etholwyr Llywodraeth Leol a’u cynrychiolwyr hefyd:
• yr hawl i holi’r Archwilydd Cyffredinol ynglŷn â’r cyfrifon.
• yr hawl i ddod gerbron yr Archwilydd Cyffredinol a mynegi gwrthwynebiad i’r cyfrifon neu unrhyw eitem ynddynt. Rhaid rhoi rhybudd ysgrifenedig o wrthwynebiad i’r Archwilydd Cyffredinol yn gyntaf. Rhaid rhoi copi o’r rhybudd ysgrifenedig hefyd i’r Cyngor.
Gellir cysylltu â’r Archwilydd Cyffredinol drwy: Archwiliadau Cynghorau Cymuned, Archwilio Cymru, 24 Heol y Gadeirlan Caerdydd CF11 9LJ neu drwy e-bost yn Click to email
4. Cynhelir yr archwiliad o dan ddarpariaethau Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 a Chod Ymarfer Archwilio Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Hawliau etholwyr o dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004
Y sefyllfa sylfaenol
Drwy gyfraith, mae gan unrhyw berson â diddordeb yr hawl i archwilio cyfrifon y Cyngor. Os oes gennych hawl ac os ydych wedi cofrestru i bleidleisio yn etholiadau’r cyngor lleol, yna mae gennych chi (neu eich cynrychiolydd) yr hawl hefyd i ofyn cwestiynau amdanynt i’r Archwilydd Cyffredinol neu i herio eitem sydd wedi ei chynnwys yn y cyfrifon.
Yr hawl i archwilio’r cyfrifon
Pan fydd corff llywodraeth leol wedi cwblhau ei gyfrifon ar gyfer y flwyddyn ariannol flaenorol, rhaid iddo hysbysebu eu bod ar gael i bobl edrych arnynt. Ar Ôl rhoi rhybudd rhesymol o’ch bwriadau, bydd gennych wedyn 20 diwrnod gwaith i edrych drwy’r cyfrifon a’r dogfennau ategol. Cewch wneud copïau o’r cyfrifon a’r rhan fwyaf o’r dogfennau perthnasol gan y corff. Mae’n debyg y bydd yn rhaid i chi dalu tâl copïo.
Yr hawl i ofyn cwestiynau i’r archwilydd ynglŷn â’r cyfrifon
Cwestiynau ynglŷn â’r cyfrifon yn unig y cewch eu gofyn i’r Archwilydd Cyffredinol. Nid oes rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol ateb cwestiynau ynghylch polisïau, cyllid, gweithdrefnau’r corff na dim arall nad yw’n gysylltiedig â’r cyfrifon. Rhaid i’ch cwestiwn ymwneud â’r cyfrifon sy’n destun yr archwiliad. Nid oes rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol ddweud a yw’n credu bod rhywbeth y mae’r cyngor wedi’i wneud, neu eitem yn ei gyfrifon, yn gyfreithlon neu’n rhesymol.
Yr hawl i fynegi gwrthwynebiad i’r cyfrifon
Os byddwch yn tybio bod y corff wedi gwario arian na ddylai fod wedi ei wario, neu fod rhywun wedi achosi colled i’r corff yn fwriadol neu drwy ymddwyn yn anghyfrifol, cewch fynegi gwrthwynebiad i’r Archwilydd Cyffredinol drwy anfon ‘hysbysiad o wrthwynebiad’ ffurfiol, y mae’n rhaid iddo fod yn ysgrifenedig, i’r cyfeiriad isod. Rhaid i chi ddweud wrth yr Archwilydd Cyffredinol pam yr ydych yn gwrthwynebu. Rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol ddod i benderfyniad ynglŷn â’ch gwrthwynebiad. Os nad ydych yn fodlon ar y penderfyniad hwnnw, cewch apelio i’r llys.
Cewch wrthwynebu hefyd os byddwch yn meddwl bod rhywbeth yn y cyfrifon y dylai’r Archwilydd Cyffredinol ei drafod gyda’r Cyngor neu ddweud wrth y cyhoedd amdano mewn ‘adroddiad buddiant cyhoeddus’. Unwaith eto, rhaid i chi roi eich rhesymau yn ysgrifenedig i’r Archwilydd Cyffredinol yn y cyfeiriad isod. Yn y sefyllfa honno, rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol benderfynu a ddylid cymryd unrhyw gamau. Fel arfer, bydd yr Archwilydd Cyffredinol yn rhoi rhesymau dros ei benderfyniad, ond nid oes rhaid iddo wneud hynny ac ni chewch apelio i’r llys. Ni chewch ddefnyddio’r ‘hawl i wrthwynebu’ hon i wneud cwyn bersonol neu hawliad yn erbyn y corff.
Os byddwch yn dymuno gwneud cwyn neu hawliad personol, dylech fynd â’r cwynion hyn i’ch Canolfan Cyngor ar Bopeth leol, Canolfan y Gyfraith leol, neu eich cyfreithiwr. Efallai y cewch hefyd gwyno wrth Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru os byddwch yn credu bod Aelod o’r corff wedi torri’r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau. Gellir cysylltu â’r Ombwdsmon yn: 1 Heol yr Hen Gae, Pencoed, Pen-y-bont ar Ogwr CF35 5LJ, (ffÔn: (01656) 641 150).
Beth arall y gellwch ei wneud
Yn hytrach na gwrthwynebu, gellwch roi gwybodaeth i’r Archwilydd Cyffredinol sy’n berthnasol i’w gyfrifoldebau. Er enghraifft, gellwch sÔn wrth yr Archwilydd Cyffredinol os byddwch yn meddwl bod rhywbeth o’i le ar y cyfrifon neu am wastraff ac aneffeithlonrwydd yn y ffordd y mae’r Cyngor yn rhedeg ei wasanaethau. Nid oes rhaid i chi ddilyn unrhyw derfynau amser na gweithdrefnau penodol. Nid oes rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol roi adroddiad manwl i chi ar ei ymchwiliad i’r materion a godwyd gennych, ond fel arfer bydd yn dweud wrthych beth yw’r canlyniad cyffredinol.
Gair terfynol
Rhaid i gyrff llywodraeth leol, ac felly trethdalwyr lleol, dalu costau delio â chwestiynau a gwrthwynebiadau. Pan fydd yr Archwilydd Cyffredinol yn penderfynu a ddylid mynd â’ch gwrthwynebiad ymhellach, un o gyfres o ffactorau y mae’n rhaid iddo eu hystyried yw’r costau fydd yn gysylltiedig. Ni fydd yn parhau â’r gwrthwynebiad ond os bydd er budd y cyhoedd i wneud hynny. Os byddwch yn apelio i’r llys, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu am yr achos eich hun.
Os byddwch yn dymuno cysylltu â’r Archwilydd Cyffredinol, ysgrifennwch at: Archwiliadau Cynghorau Cymuned, Archwilio Cymru, 24 Heol y Gadeirlan, Caerdydd CF11 9LJ.

Public Audit (Wales) Act 2004 Section 29
Accounts and Audit (Wales CYNGOR CYMUNED LLANSANNAN COMMUNITY COUNCIL
Date of announcement 23rd JUNE 2022
1. Each year the annual accounts are audited by the Auditor General for Wales. Prior to this date, any interested person has the opportunity to inspect and make copies of the accounts and all books, deeds, contracts, bills, vouchers and receipts etc relating to them for 20 working days on reasonable notice. For the year ended 31 March 2021, these documents will be available on reasonable notice on application to:
EMRYS WILLIAMS, GROESFFORDD, HENLLAN DINBYCH LL16 5DA
mob 07876266339

between the hours of 9.00 am and 5.00pm, on Monday to Friday commencing on 4 July 2022
and ending on 29 July 2022

2. From 12 September 2022, until the audit has been completed, Local Government Electors and their representatives also have:
• he right to question the Auditor General about the accounts.
• the right to attend before the Auditor General and make objections to the accounts or any item in them. Written notice of an objection must first be given to the Auditor General. A copy of the written notice must also be given to the council.
The Auditor General can be contacted via: Community Council Audits, Audit Wales, 24 Cathedral Road Cardiff CF11 9LJ or by email at 1. concluded.

Cais am Gymorth Ariannol 2021 / 2022 Application for Financial Assistance 2021 / 2022
website link
Fferm Wynt Brennig / Brennig Wind Farm / Cadwyn Clwyd
website link


CYNGHORWYR / COUNCILORS

PLWYF Y BYLCHAU GROES
BYLCHAU PARISH GROES

Elwyn Jones, Nant yr Hengoed, Groes 01745 550324 (Cyfethol / Co-opted)
Philip Wright, (Am fanylion cyswllt, cysylltwch a'r Clerc, Emrys Williams. For contact information contact the Clerk, Emrys Williams) (Cyfethol / Co-opted)

LLANSANNAN

Berwyn Evans, Gelli, Llwyn y Gibwst, Llansannan 01745870653 (Cyfethol / Co-opted)
Trefor Roberts, Prysor, Llansannan. 01745 870683 (Cyfethol / Co-opted)
Mr Meurig Davies, (Cadeirydd / Chairman) Bryn Celyn, Maes Aled, Llansannan 07799013106 (Cyfethol / Co-opted)
Delyth Williams, Fron Deg, Ffordd Gogor, Llansannan 01745870513 (Cyfethol / Co-opted)
Mrs Bethan Jones, Cysgod y Coed, Bryn Rhyd yr Arian, Llansannan LL16 5NR 01745870468 (Cyfethol / Co-opted)
Miss Tammi Owen, Bron y Waun, Llanfairtalhaiarn, Abergele LL22 8YS
Mr Eifion M Jones, Y Gorlan 8 Maes Aled Llansannan LL16 5HT 07584413400 (Cyfethol / Co-opted)
CYNGHORYDD SIR / COUNTY COUNCILLOR
Mr Trystan Lewis Y Rhwthordy, Llanfairtalhaiarn, Abergele LL22 8ST e-bost / e-mail Click to email

Cofrestr o ddatganiadau o ddiddorddebau Aelodau / Register of declarations of Members interests
website link

CYFARFODYDD 2022 MEETINGS

Ionawr 12ed / January 12th

Chwefror 9fed / February 9th

Mawrth 9fed / March 9th

Ebrill 13eg / April 13th

Mai 11eg (Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol) / May 11th (Annual General Meeting)

Mehefin 8fed / June 8th

Gorffennaf 13fed / July 13th

Awst / August Dim Cyfarfod / No Meeting

Medi 14eg / September 14th

Hydref 12eg / October 12th

Tachwedd 9fed / November 9th

Rhagfyr 14eg / December 14th

Llinnell Ymateb llifogydd 24awr
24 hour flood response
01492577999

Dogfennau (yn cynnwys cyfrifon a datganiadau a hysbysebion cyhoeuddus) / Documents (including accounts, statements and public notices) website link
website link

Agendas a Chofnodion / Agendas and Minutes
website link

Materion Cynllunio / Planning Matters
website link

Rheolau Sefydlog / Standing Orders
website link

POLISI IAITH GYMRAEG Y CYNGOR / THE COUNCIL'S WELSH LANGUAGE POLICY
website link

Polisiau Cwynion / Complaints Policy website link

Adroddad yr Ombwdsmon / Ombudsman's Report
website link

Cwyno yn erbyn eich Cyngor
Manylion Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus i Gymru
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus i Gymru,
1 Ffordd yr Hen Gae,
Pencoed,
CF35 5LJ

Rhif ffon galwadau am ddim 08456010987
website link

Complaining against your Council
Details of the Public Services Ombudsman for Wales.
Public Services Ombudsman for Wales.
1 Ffordd yr Hen Gae,
Pencoed,
CF35 5LJ

Freephone 08456010987
website link

Cyngor / Council Statistics: 0 click throughs, 832 views since start of 2023

Y%20Pentref%20-%20The%20Village1.jpgCyngor / Council

Cyngor Cymuned Llansannan Community Council Henllan Conwy

Powered by Your Tourism Community

Cyngor Cymuned Llansannan Community Council Statistics: 59 click throughs, 12801 views since start of 2023